Cynulliad Cenedlaethol Cymru

National Assembly for Wales

Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon

Health, Social Care and Sport Committee

Ymchwiliad i iechyd meddwl yng nghyd-destun plismona a dalfa’r heddlu

Inquiry into Mental health in Policing and Police Custody

HSCS(5) MHP27

Ymateb gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

Evidence from Healthcare Inspectorate Wales

Papur briffio: Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon

Ymchwiliad byr i iechyd meddwl yng nghyd-destun plismona a dalfa'r heddlu.

Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Mawrth 2019

A         Ein rôl mewn perthynas â gwasanaethau iechyd meddwl i bobl mewn argyfwng

Arolygiadau iechyd meddwl

1. Mae AGIC yn asesu a yw'r GIG yn cyrraedd y Safonau Iechyd a Gofal Cymdeithasol drwy ei harolygiadau. I ddarparwyr annibynnol y ddeddfwriaeth sylfaenol yw Deddf Safonau Gofal 2000 ac mae AGIC yn ystyried cydymffurfiaeth â Rheoliadau Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2011 sy'n gysylltiedig â'r Ddeddf honno a sut mae darparwyr yn cyrraedd y Safonau Gofynnol Cenedlaethol i Gymru.

Monitro Deddf Iechyd Meddwl 1983

2.         Mae AGIC hefyd yn gyfrifol am fonitro'r ffordd y mae gwasanaethau yn arfer eu pwerau ac yn cyflawni eu dyletswyddau mewn perthynas â chleifion a gedwir o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, ar ran Gweinidogion Cymru.  Mae hyn yn cynnwys

           Darparu gwasanaeth o dan y Ddeddf lle mae ymarferwyr meddygol cofrestredig yn awdurdodi ac yn adolygu triniaeth arfaethedig cleifion o dan amgylchiadau penodol

           Adolygu'r ffordd y caiff pwerau'r Ddeddf eu harfer mewn perthynas â chleifion sy'n cael eu cadw a'r rhai a allai gael eu cadw

           Sicrhau bod byrddau iechyd unigol a darparwyr cofrestredig annibynnol yn cyflawni eu dyletswyddau fel bod y Ddeddf yn cael ei gweinyddu'n gyfreithlon ac yn briodol ledled Cymru

           Ymchwilio i gwynion ynghylch y ffordd y caiff y Ddeddf ei chymhwyso.

3.         Mae AGIC yn cyflawni ei swyddogaeth drwy ei phrosesau arolygu, lle mae'n monitro'r ffordd y mae gwasanaethau yn defnyddio'r Ddeddf mewn amrywiaeth

o feysydd megis cleifion mewn ysbyty neu'r rhai sy'n destun Gorchmynion Triniaeth Gymunedol neu sydd dan warcheidiaeth. O fewn ein proses arolygu rydym yn adolygu'r gwaith papur cyfreithiol er mwyn sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf a'r Cod Ymarfer diwygiedig.  

Gweithio gydag eraill

4.         Mae AGIC hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â nifer o sefydliadau mewn perthynas â gwasanaethau iechyd meddwl.   

5.         Mae AGIC yn aelod o Fecanwaith Ataliol Cenedlaethol y DU sy'n cynnwys 21 o gyrff sy'n gyfrifol am ymweld â dalfeydd a'u harolygu.  Mae Protocol Dewisol y Cenhedloedd Unedig i'r Confensiwn yn erbyn Arteithio (OPCAT) yn darparu fframwaith i'r Mecanwaith Ataliol Cenedlaethol ganolbwyntio ar atgyfnerthu'r gwaith o fonitro dalfeydd.  At hynny, mae AGIC yn aelod o'r grŵp llywio a'r isgrwpiau ar gyfer plant a phobl ifanc ac iechyd meddwl.

6.         Mae AGIC yn cymryd rhan mewn arolygiadau ar y cyd o dimau Troseddau Ieuenctid ledled Cymru, gydag Arolygiaeth Prawf EM. Mae nifer o asiantaethau eraill hefyd yn cymryd rhan yn yr arolygiadau hyn gan gynnwys Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), Estyn ac Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub EM.  Yn ystod y cydarolygiadau hyn mae AGIC yn canolbwyntio ar y ffordd y mae anghenion gofal iechyd y troseddwyr ifanc yn cael eu diwallu. Mae'r rhain yn cynnwys: anghenion corfforol a seicolegol, cynnwys

Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS), iechyd rhywiol a strategaethau triniaeth ar gyfer cyffuriau ac alcohol.      

7.         Rydym hefyd yn gweithio gydag Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub EM i ystyried sut mae anghenion corfforol ac anghenion iechyd meddwl unigolion dan gadw yn cael eu hasesu a'u diwallu yn nalfeydd yr heddlu. Fel arfer, cynhelir yr arolygiadau hyn unwaith y flwyddyn yng Nghymru ac mae AGIC wedi bod yn bresennol yn ystod dau o'r pedwar arolygiad diwethaf fel sylwedydd.

Gwaith arfaethedig

8.         Mae'r Concordat Gofal Mewn Argyfwng Iechyd Meddwl yn ddatganiad ar y cyd o ymrwymiad i wella'r gofal a'r cymorth a roddir i bobl sy'n wynebu argyfwng iechyd meddwl neu sydd mewn perygl o wynebu argyfwng o'r fath, ac sy'n debygol o gael eu cadw o dan adran 135 neu adran 136 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.  Cefnogir y datganiad o ymrwymiad gan nifer o asiantaethau gan gynnwys: Llywodraeth Cymru, y GIG, yr Heddlu, Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Awdurdodau Lleol a'r trydydd sector.  Mae gan AGIC ac Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub EM rôl i'w chwarae wrth graffu ar effaith y Concordat.

9.         Mae rhanddeiliaid iechyd meddwl AGIC wedi codi pryderon ynghylch argaeledd ac effeithiolrwydd gwasanaethau gofal mewn argyfwng ac mae AGIC wedi penderfynu cynnal adolygiad thematig yn y maes hwn yn ystod 2019/20. Disgwylir i'r gwaith hwn ddechrau ar ddechrau'r flwyddyn newydd a chaiff grŵp rhanddeiliaid cyffredinol ei gynnull i lywio'r astudiaeth.

B       Yr hyn rydym yn ei ganfod

10. Nid oes gennym rôl i'w chwarae o ran arolygu'n uniongyrchol y gofal a ddarperir gan yr heddlu na'r gofal a ddarperir i bobl sy'n agored i niwed yn y ddalfa. Fodd bynnag, mae rôl iechyd yn rhan o'n cylch gorchwyl a gall ddarparu gwybodaeth gyd-destunol ddefnyddiol i'r Pwyllgor. Mae'r adrannau isod yn crynhoi canfyddiadau perthnasol gwaith diweddar a all fod o ddiddordeb.

B.1 Canfyddiadau ein hadolygiad o Dimau Iechyd Meddwl Cymunedol, 2019

11.      Ym mis Chwefror 2019, gwnaethom gyhoeddi canfyddiadau ein hadolygiad cenedlaethol o dimau iechyd meddwl cymunedol a gynhaliwyd ar y cyd ag AGC. Rydym yn parhau i ymweld â Thimau Iechyd Meddwl Cymunedol fel rhan o'n rhaglen barhaus o waith.

12.      Yn ystod ein hadolygiad gwnaethom ganfod yn aml fylchau ac amrywioldeb o ran safonau, cysondeb ac argaeledd y driniaeth, gofal a chymorth a ddarperir gan Dimau Iechyd Meddwl Cymunedol ledled Cymru.

13.      Mae Mynediad at Wasanaethau yn faes yr oedd angen ei wella ledled Cymru. Nodwyd gennym fod angen atgyfnerthu cysylltiadau rhwng Ymarfer Cyffredinol (meddygon teulu) a Thimau Iechyd Meddwl Cymunedol, am fod diffyg eglurder ynglŷn â'r meini prawf ar gyfer atgyfeirio unigolion at Dimau Iechyd Meddwl Cymunedol, yn ogystal â diffyg gwybodaeth am yr amrywiaeth o wasanaethau sydd ar gael er mwyn i bobl gael eu hatgyfeirio atynt. Er bod rhai meysydd yn symud tuag at un pwynt cyswllt mwy integredig ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl, a fydd yn gwella'r sefyllfa, mae'r sefyllfa ledled Cymru yn amrywio.

14.      Yn arwyddocaol, nodwyd gennym fod anghysondeb ledled Cymru o ran yr ymateb i bobl sy'n wynebu argyfwng iechyd meddwl neu y mae angen cymorth arnynt ar frys. Mae rhai defnyddwyr gwasanaeth yn cael ymyriad neu gymorth ar unwaith ond mae eraill yn profi oedi cyn cael ymateb, er enghraifft maent yn gorfod mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys ar fwy nag un achlysur neu'n ei chael hi'n anodd cysylltu â gwasanaethau y tu allan i oriau. Nid oedd nifer sylweddol o bobl yn gwybod gyda phwy y dylent gysylltu y tu allan i oriau,

ac nid oeddent yn fodlon ar yr help a gynigiwyd iddynt. Golyga hyn na all pobl sy'n defnyddio gwasanaethau mewn argyfwng fod yn sicr yr ymatebir i'w hanghenion yn briodol ac yn amserol bob amser. 

15.      Er bod cynlluniau gofal a dogfennaeth ddeddfwriaethol, yn y rhan fwyaf o

Dimau Iechyd Meddwl Cymunedol, yn cael eu cwblhau’n amserol, nid ydym wedi cael sicrwydd bod defnyddwyr gwasanaeth na'u teuluoedd/gofalwyr bob amser yn cael eu cynnwys yn y broses o ddatblygu'r cynllun gofal a thriniaeth i'r graddau yr hoffent gael eu cynnwys. Er bod y rhan fwyaf o wasanaethau yn bodloni'r amserlenni gofynnol ar gyfer cynnal asesiadau a chynllunio gofal, nodwyd gennym nad oedd hyn bob amser yn cyfateb i gynlluniau gofal o ansawdd da. Nid yw pob Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol yn canolbwyntio ar ansawdd cofnodion na dogfennau, na'r manylion ynddynt.

16.      Nododd ein harolygiad fod angen gwella amgylcheddau gwaith yn y rhan fwyaf o Dimau Iechyd Meddwl Cymunedol ac nad yw rhai meysydd clinigol yn addas at y diben. Er bod staff yn ceisio gweithio yn effeithiol ac yn effeithlon yn glinigol ac yn gydweithredol, nid yw eu hamgylchedd gwaith bob amser yn hwyluso hyn. Mae angen gwneud mwy i ddatrys y problemau hyn.

17.      Hefyd, nododd nifer o'n harolygiadau bryderon ynghylch y trefniadau ar gyfer rheoli meddyginiaethau a bod angen datblygu gwell prosesau archwilio, canllawiau a chymorth gan fferyllwyr cymunedol iechyd meddwl penodedig.

18.      Er i ni gael sicrwydd bod gan fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol drefniadau pendant ar gyfer goruchwylio ansawdd y gofal a ddarperir yn eu Timau Iechyd Meddwl Cymunedol perthnasol, mae llawer o fyrddau iechyd yn mynd drwy gyfnod o newid. Clywsom am lawer o feysydd pwysig o waith datblygu gwasanaethau strategol. Fodd bynnag, mae dyletswydd o hyd i sicrhau bod defnyddwyr gwasanaeth yn cael y gofal priodol gan yr unigolyn priodol ar yr adeg briodol, tra bod y gwaith o drawsnewid gwasanaethau yn fwy cyffredinol yn mynd rhagddo.

19.      Mae ein hadolygiad wedi nodi bod llawer o wasanaethau cymorth gwahanol yn cael eu cynnig ledled Cymru, y mae llawer ohonynt wedi'u teilwra at ranbarthau penodol. Fodd bynnag, mewn rhai ardaloedd ceir problemau sy'n gysylltiedig â chael gafael ar rai gwasanaethau cymorth yn y trydydd sector a rhai gwasanaethau cymorth eraill. Gall hyn fod yn rhwystr i ofal ataliol rhagweithiol. Credwn y gall y trydydd sector gynnig cymorth amhrisiadwy wrth ddiwallu anghenion pobl ag iechyd meddwl gwael a bod hwn yn adnodd y dylid ei groesawu a'i ddefnyddio'n amlach lle y bo ar gael.

20.      Mae ein gwaith wedi nodi heriau sylweddol mewn perthynas â chael gafael ar wasanaethau seicolegol neu therapiwtig gydag amseroedd aros hir yng Nghymru; hyd at 24 mis mewn rhai ardaloedd. Mae hyn yn gofyn am weithredu

ar frys er mwyn mynd i'r afael â'r diffygion o ran y gwasanaethau a ddarperir. Bydd hyn yn cynnwys ystyried ffyrdd mwy arloesol o ddiwallu'r angen hwn yn ogystal â recriwtio rhagor o unigolion i'r disgyblaethau hyn. Rhaid i fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol ystyried anghenion nas diwallwyd a nodwyd er mwyn llywio gwaith comisiynu a chynlluniau gweithredol yn y dyfodol.

21.      Mae technoleg gwybodaeth a mynediad cyffredinol at gofnodion cleifion/defnyddwyr gwasanaeth yn broblem fawr o hyd mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd hyn yn anodd iawn i wasanaethau integredig megis Timau Iechyd Meddwl Cymunedol. Mae gan Lywodraeth Cymru rôl i'w chwarae wrth ddatblygu systemau sy'n darparu ar gyfer hyn a phrosesau cadw cofnodion cydweithredol mwy diogel, mwy effeithlon a mwy effeithiol.

B.2 Canfyddiadau ein gwerthusiad o Adolygiadau o Ddynladdiadau, 2016

22.      Nododd yr adolygiad, a edrychodd ar 13 o adolygiadau annibynnol o ddynladdiadau a gynhaliwyd gan AGIC, fod anghysondebau o ran y ffordd y caiff cynlluniau gofal a thriniaeth eu rhoi ar waith yng Nghymru, a'r dull o asesu'r risg i gleifion a'r rheoli risg, wedi bod yn ffactor mewn 11 o ddynladdiadau.  Roedd diffyg cyfathrebu effeithiol neu'r ffaith nad oedd gwybodaeth yn cael ei rhannu yn fater allweddol, a oedd yn tanseilio gallu gweithwyr proffesiynol i wneud diagnosis yn seiliedig ar wybodaeth lawn.

23.      Nododd chwech o'n hadolygiadau nad oedd cynlluniau effeithiol i ryddhau cleifion yn cael eu llunio ac nad oedd trefniadau ôl-ofal wedi'u rhoi ar waith. Nodwyd gennym fod safon y ddogfennaeth yn wael mewn sawl achos ac mai prin yw'r wybodaeth sydd wedi cael ei rhannu â phartïon perthnasol am ddangosyddion ailwaelu. Mae hyn yn arwyddocaol iawn am fod gan y rhan fwyaf o'r unigolion a astudiwyd yn ystod ein hadolygiadau hanes o ailwaelu, hanes o gael eu derbyn i'r ysbyty dro ar ôl tro ac amharodrwydd i ymgysylltu â gwasanaethau. Yn yr achosion hyn, mae angen trefniadau rhyddhau cadarn er mwyn sicrhau parhad gofal.

C.3      Canfyddiadau ein hadolygiad o wasanaethau camddefnyddio sylweddau, 2018

24. Nododd ein hadolygiad fod angen i'r sector gofal eilaidd, y sector gofal sylfaenol, gwasanaethau cymdeithasol ac, yn arbennig, wasanaethau iechyd meddwl gydweithio'n fwy.  Dywedodd pobl yn aml eu bod yn ei chael hi'n anodd cael help gyda'u problemau iechyd meddwl a gwnaethant ddisgrifio sut roeddent yn cael eu symud nôl ac ymlaen rhwng gwasanaethau camddefnyddio sylweddau a gwasanaethau iechyd meddwl.  Mae llawer o bobl yn troi at gamddefnyddio sylweddau oherwydd eu problemau iechyd meddwl, ond ni allant gael help gyda'u hiechyd meddwl nes iddynt roi'r gorau i gamddefnyddio'r sylweddau hyn.

 

Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

Mawrth 2019